
Pecyn cynhwysfawr o ddeunyddiau amlgyfrwng ar gyfer dysgu'r Gymraeg fel ail iaith yng Nghyfnod Allweddol 3.
Mae'r pecyn Taith Iaith yn cynnwys:
• Llyfr Cwrs sy'n cyflwyno eitemau iaith, geirfa werthfawr, storïau a ffeithiau diddorol.
• Llyfr Gweithgareddau sy'n llawn awgrymiadau defnyddiol ar gyfer gweithgareddau atodol i'w defnyddio gyda'r Llyfr Cwrs.
• CD-ROM o ymarferion gwrando.
• Gwefan arbennig, sy'n cynnwys sgriptiau'r gryno ddisg, gweithgareddau atodol a thaflenni gwaith.
Mae'r holl ddeunyddiau yma yn perthyn yn agos i'w gilydd. Mae logos hwnt ac yma yn y llyfrau er mwyn cynnig help i fynd o'r prif lyfr i'r llyfr ymarferion, i'r cryno ddisg, i'r wefan ac ati.
Mae'r gweithgareddau sy ar y wefan yma wedi eu rhannu yn:
• ADRAN A: Llyfr Cwrs
• ADRAN B: Llyfr Gweithgareddau
• ADRAN C: Sgriptiau'r cryno ddisg
Gweithgareddau Gwahaniaethol Taith Iaith 2
Taith Iaith 2 Uned 1
Taith Iaith 2 Uned 2
Taith Iaith 2 Uned 3
Taith Iaith 2 Uned 4
Taith Iaith 2 Uned 5