Yn ddiweddar, cyhoeddodd CAA fap mawr arloesol o Brydain. Nodwedd fwyaf trawiadol y map yw ei faint – 5metr × 4metr – felly mae digon o le i ddisgyblion gerdded drosto a gwneud gweithgareddau amrywiol. Wedi ei wneud o ddefnydd rhwyllog gwrth-ddwr a gwrthfflam, gellir ei ddefnyddio o dan do neu'r tu allan a gellir ei lanhau yn hawdd.
Daeth y syniad gwreiddiol am fap o'r fath gan Ann Jones, cyn-bennaeth yr adran Hanes yn Ysgol Gymuned Cefn Hengoed, ger Abertawe.
“Bydd y map hwn yn ddefnyddiol mewn sawl maes yn y cwricwlwm cynradd ac uwchradd,” meddai Lynwen Jones, Cyfarwyddwr CAA, “megis Hanes, Daearyddiaeth, ABICh, a hyd yn oed Mathemateg! Fe fydd hefyd yn sicrhau bod ein plant yn dod i adnabod Ynysoedd Prydain yn well trwy gymryd rhan mewn gweithgareddau difyr ac ymarferol.”
Mae'r map yn dangos Ynysoedd Prydain mewn cerfwedd, gan ddangos y prif afonydd, llynnoedd a mynyddoedd, a hefyd cwmpawd a graddfa er gwybodaeth. Nid oes unrhyw destun ar y map ei hun, ond nodir â dot y prifddinasoedd a rhai aneddiadau sy'n bwysig yn hanesyddol. Mae'r pecyn atodol dwyieithog a ddaw gyda'r map yn cynnwys set gyflawn o enwau lleoedd; 20 symbol i gynrychioli prif fwynau a diwydiannau Prydain; 40 o saethau mewn dau faint a phedwar lliw gwahanol; a fersiwn wedi ei labelu'n llawn o'r map ar daflen A3 laminiedig, y gellir ei arddangos ar wal.
Os hoffech chi archebu map a phecyn dwyieithog, am £199 yn unig, cysylltwch â ni ar unwaith. Dim ond 6 map sydd ar ôl, felly y cyntaf i'r felin...! Ni fydd mwy o fapiau yn cael eu hargraffu wedi i'r rhain fynd.
Mae Shirley Edwards, un o'r ddwy ferch o Batagonia a gafodd eu hatal rhag cael dod i mewn i Brydain yn gynharach eleni, wedi cyrraedd Cymru yn dilyn ymgyrch hir i gael ei fisa gan Asiantaeth Ffiniau'r DU. Mae hi'n bwriadu teithio ar hyd a lled Cymru i wella ei sgiliau yn yr iaith Gymraeg yn ystod ei hymweliad.

Derbyniodd Rhobert ap Steffan, aelod o Grwp Cefnogi Patagonia, werslyfrau a geiriaduron Cymraeg/Sbaeneg gan CAA i'w chynorthwyo â'r dasg. Yn y llun ar y dde, gwelir y diweddar Athro Hywel Teifi Edwards yn cyfwyno'r llyfrau i Rhobert.
Mae Evelyn Calcabrini, y ferch arall o'r Ariannin y gwrthodwyd mynediad iddi, wrthi yn paratoi apêl gyfreithiol newydd i geisio sicrhau ei fisa, ac os bydd hi'n llwyddiannus, bydd yn astudio yng Nghymru o fis Mai hyd at fis Hydref 2010.
Mae'r ymgyrch a sefydlwyd ar eu rhan wedi llwyddo i gasglu dros £5,000 erbyn hyn.
Llun isod: Shirley Edwards
Ddydd Sadwrn, yr 2il o Fai, roedd CAA yn lansio nofel dditectif ar gyfer pobl ifanc 10-14 oed – 'Y Jaguar Glas Tywyll' – yng Ngwyl Bedwen Lyfrau 2009.
Cynhaliwyd y lansiad yng Nghanolfan Arad Goch, Aberystwyth, ac Elgan Philip Davies, awdur y nofel, oedd y siaradwr gwadd. Bu ditectif preifat o ganolbarth Cymru yn adrodd hanesion difyr am ei waith ef yn ystod y lansiad hefyd.
Nofel am fachgen 15 oed, Gethin Evans, sy'n ffansïo'i hun fel tipyn o dditectif yw 'Y Jaguar Glas Tywyll'. Mae swydd dros yr haf gyda Margam Powell, Gwasanaeth Ymholi Personol, yn apelio ato, ond prin bod dychymyg byw Gethin hyd yn oed wedi rhagweld yr hyn sy'n digwydd ar ôl ei gyfweliad. Gyda help Caryl, mae Gethin yn rhoi ei sgiliau ditectif ar waith.
Dywedodd Lynwen Rees Jones, Cyfarwyddwr y Ganolfan Astudiaethau Addysg:
“Gan fod gwyl y Fedwen Lyfrau yn cael ei chynnal yn lleol i ni eleni yn Aberystwyth, roedden ni'n teimlo y byddai'n gyfle da i lansio'r nofel dditectif newydd hon gan awdur lleol. Roedd y bobl ifanc a fynychodd y digwyddiad yn amlwg wedi mwynhau eu hunain yn arw yn gwrando ar yr awdur a'r ditectif yn sôn am eu gwaith diddorol.”
Ddydd Mawrth, y 18fed o Dachwedd, roedd CAA yn lansio cyfres o lyfrau darllen hanes ar gyfer plant 9-13 oed – 'Yr Hen Ffordd Gymreig' / 'The Old Welsh Way' – yn stadiwm newydd sbon Parc y Scarlets, Llanelli. Cynhaliwyd y lansiad yn fuan wedi i Barc y Scarlets gael ei wneud yn gartref swyddogol rhanbarth y Scarlets.
Roedd Phil Bennett, cyn-chwaraewr enwog Llanelli a Chymru yn oes aur rygbi Cymru, yn siaradwr gwadd yn y digwyddiad, a bu Catrin Stevens, yr awdures, yn adrodd straeon ac yn cynnal cwis am gampau a chwaraeon yng Nghymru gyda disgyblion blwyddyn 6 Ysgol Dewi Sant, Llanelli. Roedd cynrychiolwyr o APADGOS, CBAC a Chyngor Llyfrau Cymru yn bresennol yn y lansiad, a chafodd y gwesteion gyfle i fynd ar daith o amgylch y stadiwm i gloi'r digwyddiad.
Cyfres o chwe llyfr darllen hamdden llawn lluniau a hanes difyr yw Yr Hen Ffordd Gymreig ar gyfer plant 9-13 oed, sy'n sôn am Gymru a'i phobl dros y canrifoedd, ar y themâu Cartrefi, Trosedd a Chosb, Môr a Morwyr, Campau a Chwaraeon, Terfysg a Phrotest a Cymeriadau. Mae fersiwn Saesneg o'r llyfrau hefyd ar gael – cyfres 'The Old Welsh Way'.
Dywedodd Lynwen Rees Jones, Cyfarwyddwr y Ganolfan Astudiaethau Addysg:
“Gan ei bod hi'n Flwyddyn Darllen Genedlaethol eleni, roedden ni'n teimlo y byddai'n gyfle da i gynnal lansiad mewn lleoliad cyffrous a phoblogaidd fel Parc y Scarlets. Roedd y plant a fynychodd y digwyddiad o Ysgol Dewi Sant wedi cyffroi'n lân – roedd y lansiad yn un o'r digwyddiadau cyntaf i gael eu cynnal yn y stadiwm newydd, ac yn gyfle iddyn nhw gael gweld y lleoliad cyn i lawer o'r cyhoedd ei weld, gan na fydd gêm gynta'r Scarlets yn cael ei chwarae yno tan yr 28ain o Dachwedd.”
“Roedd yn gyfle gwych i CAA gael arddangos eu hamrywiol gyhoeddiadau, a thynnu sylw at lyfrau darllen difyr 'Yr Hen Ffordd Gymreig' yn arbennig.”
Bu eitemau ar y lansiad ar raglen Wedi 7 (S4C), Good Morning Wales (BBC Radio Wales) a'r Post Cyntaf (BBC Radio Cymru), yn ogystal ag erthyglau mewn papurau newydd megis y 'Cambrian News' a'r 'South Wales Evening Post'.
Ddydd Mawrth, y 27ain o Fai, lansiwyd cyfres newydd sbon gan CAA ar faes Eisteddfod yr Urdd Sir Conwy 2008, sef Tric-y-Trac 1, 2 a 3. Cyfres o dri llyfr i wella darllen effeithiol trwy hybu'r gwaith o ddatblygu sgiliau gwahaniaethu gweledol neu sgiliau tracio yw Tric-y-Trac.
Mae Lynette Jones a Carole Jones, awduron y gyfres, yn athrawon cynnal Anghenion Addysg Ychwanegol yn Ysgol Dewi Sant, Llanelli. Roeddynt yn ymwybodol o'r amrywiaeth eang o ddeunyddiau cefnogi llythrennedd sydd ar gael yn y Saesneg, ac wrth geisio amlygu, mewn cyfarfod o banel adnoddau AAY, y byddai'n ddymunol cael deunydd cyfatebol yn y Gymraeg, cyfeiriodd Lynette Jones at adnoddau tracio y bu'n eu defnyddio'n gyson. Fe'u cyflwynwyd iddi hi a Carole Jones gan Margaret Stevens (o'r Gymdeithas Ddyslecsia Brydeinig) a fu hefyd ar un adeg yn athrawes gynnal yn Ysgol Dewi Sant.

Rhes gefn: Dr John Lloyd (APADGOS), Eleri Jones (Uned Ddyslecsia Bangor), Anne Cooke
Rhes flaen: Gwenda Lloyd Wallace (Golygydd - CAA), Carole Jones (Awdur), Alwena Tomos (Uned Ddyslecsia Bangor - siaradwraig wadd)
Yn dilyn ymateb brwdfrydig yn y cyfarfod, aethpwyd ati i greu cyfres o ymarferion tracio Cymraeg wedi'u strwythuro, a'u cyhoeddi mewn set o dair cyfrol. Mae'r tri llyfr yn addas at ddefnydd disgyblion ar draws yr ystod gallu – o'r blynyddoedd cynnar i fyny, yn unigol ac mewn grwpiau. Mae elfen gystadleuol i'r ymarferion, gyda'r disgybl yn ymdrechu i wella amser a chywirdeb. Y nod yw y bydd yn dyfalbarhau hyd ddiwedd y dasg, gan ddatblygu hunanhyder a phrofi llwyddiant wrth weithio trwy'r llyfr. Yn ogystal â hyn, mae'r cyfrolau hefyd yn cynnwys syniadau am ymarferion pellach i wella'r canfyddiad a'r cof gweledol.
Defnyddiwyd amrywiaeth o frawddegau, adnodau, rhigymau a phenillion traddodiadol fel sail i'r ymarferion. Dywedodd Lynette Jones, “Yn ogystal â chynnig manteision amlwg wrth ddatblygu llythrennedd, fy ngobaith i a Carole yw y bydd Tric-y-Trac 1, 2 a 3 hefyd yn gyfrwng i adfywio rhywfaint ar y cyfoeth deunydd sydd ar gael yn y Gymraeg ac sy'n gymaint rhan o'n traddodiad fel cenedl.”

Roedd CAA yn dathlu chwarter canrif eleni. Ffurfiwyd Canolfan Astudiaeth Addysg (CAA) Prifysgol Aberystwyth ym mis Medi 1982, yn dilyn cais gan athrawon mewn ysgolion uwchradd dwyieithog i sefydlu canolfan adnoddau dysgu cyfrwng Cymraeg.
Cafodd y syniad gefnogaeth y diweddar Athro Roger Webster, Pennaeth Adran Addysg y Brifysgol, a Mr Illtyd Lloyd, Prif Arolygydd Ysgolion ei Mawrhydi, a phenodwyd Glyn Saunders Jones yn gyfarwyddwr ar y cynllun, a oedd yn y lle cyntaf yn broject blwyddyn yn unig. Bu'n llwyddiant ysgubol a bu Glyn yn gyfarwyddwr am ugain mlynedd yn y pen draw, cyn ei olynu gan Helen Emanuel Davies yn 2002 ac yna Lynwen Rees Jones yn 2006.
Heddiw mae CAA yn un o gyhoeddwyr adnoddau dysgu mwyaf Cymru, ac yn cynhyrchu deunyddiau o ansawdd uchel yn y Gymraeg ac yn Saesneg, yn llyfrau, CDs, CD-Roms rhyngweithiol, pecynnau aml-gyfrwng a gweithgareddau ar-lein. Cyhoeddwyd oddeutu 1,800 o gyhoeddiadau ers ei sefydlu ym 1982.
Dywedodd Lynwen Rees Jones, Cyfarwyddwr y Ganolfan Astudiaethau Addysg:
“Prif bwrpas y Ganolfan Astudiaethau Addysg ar y cychwyn oedd datblygu addysg gyfrwng Gymraeg mewn ysgolion uwchradd, a gwnaed hyn trwy gasglu deunyddiau ynghyd o bob un o'r ysgolion dwyieithog i greu banc adnoddau canolog. Bellach rydym yn cynhyrchu deunyddiau ar gyfer pob ystod oedran, o'r Cyfnod Sylfaen hyd at addysg ôl-16, ac ar gyfer pob lefel gallu a bron pob pwnc a gynigir mewn ysgolion.”
“Gyda dros hanner cant o ysgolion uwchradd yn cynnig pynciau drwy'r Gymraeg erbyn hyn, a dros 30 o'r rheiny yn ysgolion penodedig Cymraeg neu Ddwyieithog, mae galw cynyddol am adnoddau cyfrwng Cymraeg. Ym 1982, 6,390 o ddisgyblion a safodd arholiadau Lefel O / TAU y Cyd-Bwyllgor Addysg trwy gyfrwng y Gymraeg, gyda 440 yn sefyll arholiadau Safon Uwch. Erbyn 2006, roedd y niferoedd wedi cynyddu'n aruthrol: TGAU, cyrsiau byr – 3,205; TGAU, cyrsiau llawn a galwedigaethol – 19,479; Safon Uwch Gyfrannol – 2,709; Safon Uwch – 2,484. Mae'n amlwg felly bod addysg gyfrwng Gymraeg wedi ennill ei phlwyf, ac mae angen adnoddau o safon ac ansawdd priodol i gefnogi hyn.”
I nodi'r garreg filltir bwysig hon, lansiwyd cyfres ddiweddaraf CAA, Yr Hen Ffordd Gymreig, ar yr 11eg o Hydref ym Mhlasty Nanteos. Cyfres o chwe llyfr darllen hamdden llawn lluniau a hanes difyr yw Yr Hen Ffordd Gymreig ar gyfer plant 9-13 oed, sy'n sôn am Gymru a'i phobl dros y canrifoedd, ar y themâu Cartrefi, Trosedd a Chosb a Môr a Morwyr.
Bu awdur y gyfres, Dr Catrin Stevens, yn siarad â disgyblion o Ysgol Gyfun Penweddig yn ystod y lansiad – yn holi cwestiynau a chynnal cwis ar gynnwys y llyfrau a hanes Cymru, ac yn adrodd straeon ysbryd am Blasty Nanteos. Cafodd yr holl westeion hefyd gyfle i fynd am dro o amgylch y Plasty wedi lluniaeth ysgafn. Roedd cynrychiolwyr o Brifysgol Aberystwyth, CBAC a Chynulliad Cenedlaethol Cymru yn bresennol, a bu BBC Radio Cymru yn recordio yn fyw o'r digwyddiad ar gyfer rhaglenni y 'Post Cynta' a'r 'Post Prynhawn'.
Dywedodd Rhiannon Jones, athrawes yn adran Gymraeg Ysgol Gyfun Penweddig: “Mae llawer o blant yn meddwl fod rhaid pori trwy lyfrau di-ri ym myd hanes, ond mae'r llyfrau yma wedi cael eu gosod yn ddeniadol ac yn lliwgar. Gall y plant daro i mewn i unrhyw dudalen, ac mae hyn yn aml yn apelio. Mae disgyblion Penweddig wedi bod yn dod yn ôl ata i a gofyn 'Ga' i'r un nesa? Dwi eisiau ei weld e.' Rwy'n hoffi hynny – mae'n dweud y cyfan.”
Cafodd cinio mawr hefyd ei gynnal ar nos Wener, y 12fed o Hydref yn Yr Ystafell Ginio Uchaf ym Mhenbryn, Aberystwyth i ddathlu penblwydd CAA yn 25. Cafwyd noson ddifyr a phleserus yng nghwmni staff, cyn-staff a chyfeillion.
Rhai o uchafbwyntiau Canolfan Astudiaethau Addysg, Prifysgol Aberystwyth:
i. 1981 Cais am sefydlu canolfan adnoddau gan athrawon ysgolion dwyieithog
ii. 1982 Sefydlu Canolfan Astudiaethau Addysg gan Brifysgol Aberystwyth
iii. 1984 Cyhoeddi'r llyfryn cyntaf dan enw Canolfan Astudiaethau Addysg: Gwres, Ynysu a Golau o Gyfres y Cartref
iv. 1999 Cyhoeddi dau eiriadur mawr, Almaeneg–Cymraeg, Cymraeg–Almaeneg; a Ffrangeg–Cymraeg, Cymraeg–Ffrangeg. Yn ogystal, cyhoeddwyd tri geiriadur poced, Le Petit Dico a'r Geiriadur Almaeneg ym 1996 a'r Geiriadur Sbaeneg yn 2007.
v. 2002 Dechrau gwaith ar Taith Iaith, sef cyfres o lyfrau cwrs, llyfrau gweithgareddau, cryno ddisgiau, llyfrau darllen atodol, gweithgareddau ar y we a DVD ar gyfer dysgwyr o bob lefel gallu, rhwng 11 – 16 oed. Dyma broject mwyaf llwyddiannus y Ganolfan gyda dros 40,000 o deitlau yn gyfres wedi eu gwerthu.
vi. 2003 Cyfres Clic, cyfres o lyfrau darllen a thaflenni gweithgareddau ar gyfer disgyblion yng Nghyfnod Allweddol 2-3, yn ennill y wobr gyntaf yng Ngwobrau Llyfrau yr Asiantaeth Sgiliau Sylfaenol
vii. 2004 dyfarnu Gwobr Tir na n-Og i'r Ganolfan am 'Lyfr Saesneg Gorau'r Flwyddyn' – The Battle of Mametz Wood gan Robin Evans, o'r gyfres Cymru a'r Byd / Wales and the World, sydd wedi'i hanelu at ddisgyblion sy'n astudio Hanes yng Nghyfnod Allweddol 3.
viii. 2005 Chwyldro! Chwyldro? gan Robin Evans ar restr fer o bedwar llyfr yn y categori 'Llyfr Gorau'r Flwyddyn ac Eithrio Ffuglen' .
ix. 2006 Daeth Sgíl, gan Meinir Ebbsworth, llyfr a ffeil sy'n hyrwyddo ac atgyfnerthu sgiliau sylfaenol yn y Gymraeg yn CA3, yn ail yn y Gwobrau Llyfrau Sgiliau Sylfaenol.
x. 2007 Dathlu 25 mlynedd a'r ffaith fod oddeutu 1,800 o gyhoeddiadau wedi eu cynhyrchu yn ystod y cyfnod hwn.
Brynhawn dydd Gwener, yr 22ain o Fehefin, bu'r cyflwynydd a'r actor, a llais clwb pêl-droed Caerdydd, Ali Yassine, yn siaradwr gwadd mewn digwyddiad yng Nghaerdydd i lansio llyfr arloesol ar fewnfudwyr yng Nghymru.
Y llyfr oedd yn cael ei lansio oedd
Mewnfudwyr yng Nghymru yn ystod yr 20fed Ganrif / Immigrants in Wales during the 20th century, gan Robin Evans, llyfrau hanes sy'n llawn gwybodaeth am hynt a helynt mewnfudwyr yng Nghymru yn y cyfnod hwnnw, a'r cyfraniad a wnaed ganddynt i ddiwylliant a bywyd y wlad.
Fe fewnfudodd teulu Ali Yassine ei hun i Gymru yn y 1950au – roedd ei daid yn forwr o Somalia, ac fe symudodd i fyw i Brydain gyda'i deulu – i Lerpwl yn wreiddiol, ond yna i Gaerdydd. Ganwyd Ali ei hun yn ardal y dociau yng Nghaerdydd, ac mae wedi cael gyrfa lwyddiannus yn y cyfryngau, yn y Gymraeg a'r Saesneg. Aeth ati i ddysgu'r Gymraeg pan oedd yn ei ugeiniau, ac mae o a'i blant bellach yn rhugl yn yr iaith.
Cynhaliwyd y lansiad yn yr Hen Lyfrgell yng Nghaerdydd, lle mae arddangosfa gan Amgueddfa Caerdydd ymlaen ar hyn o bryd – Gwreiddiau i Gaerdydd/ Roots to Cardiff. Mae cefndir yr arddangosfa hon yn debyg iawn i gynnwys y llyfr, ond ei bod yn dilyn hanes pobl yn mewnfudo i rannau o Gaerdydd, ac effeithiau hynny ar y ddinas a'r diwylliant.

Yn ystod y digwyddiad bu Ali Yassine yn annerch y gynulleidfa ac yn cynnal sesiwn cwestiwn ac ateb ar y pwnc dan sylw gyda disgyblion Ysgol Gyfun Gymraeg Plasmawr ac Ysgol Uwchradd Cathays. Roedd cynrychiolaeth o'r Cynulliad (APADGOS), y Comisiwn Cydraddoldeb Hiliol, a Phrifysgol Aberystwyth yn bresennol yn y lansiad.
Cafodd y llyfr groeso cynnes gan y Comisiwn Cydraddoldeb Hiliol. Dyma oedd gan Chris Myant o'r Comisiwn i'w ddweud, “ Mae pob un o'r 52 tudalen yn y llyfr hanes/gwaith lliw llawn hwn yn ferw o ddiddordeb. Mae Robin Evans a phawb a'i cynorthwyodd wedi [creu llyfr] sy'n gwbl ffeithiol ond hefyd yn ddiddorol a llawn her ar ein cyfer ni i gyd. Ni fydd unrhyw un – yn athro, myfyriwr neu riant – yn darllen hwn ac yn methu dysgu rhywbeth am Gymru a'i phobl nad oedden nhw'n ei wybod o'r blaen.”
Ar Fawrth yr 2il eleni, i ddathlu Diwrnod y Llyfr, trefnwyd digwyddiad gan y Ganolfan Astudiaethau Addysg yn Yr Ysgol Gymraeg, Aberystwyth i lansio un o'u cyfresi newydd sbon, sef
Hwyl Drwy'r Flwyddyn. Fe fu'r awdures, a chyn gyfarwyddwr CAA Helen Emanuel Davies, yn darllen dau o lyfrau'r gyfres, sef
Gwˆyl Dewi a
Blwyddyn Newydd China, i rai o blant blwyddyn un yr ysgol.
Cyfres o 12 llyfr darllen lliwgar a difyr yw '
Hwyl Drwy'r Flwyddyn' ar gyfer plant Cyfnod Allweddol 1, wedi'u hysgrifennu gan Helen Emanuel Davies, Meinir Ebbsworth, Siân Lewis, Non ap Emlyn a Fflur Pughe. Mae'r gyfres, sy'n sôn am wahanol ddigwyddiadau ar hyd y flwyddyn, wedi'i hanelu at ddisgyblion Cymraeg ail iaith Cyfnod Allweddol 1, ond mae'n addas hefyd ar gyfer disgyblion iaith gyntaf yn y Cyfnod Sylfaen. Yn ogystal â'r 12 llyfr mawr (maint 350 mm x 480 mm) i'w darllen fel dosbarth, mae llawlyfr athrawon dwyieithog a CD Sain hefyd ar gael.
Roedd y plant wrth eu boddau yn clywed hanes Dewi Sant ac yn awyddus iawn i sôn am eisteddfod yr ysgol a gynhaliawyd ar Ddydd Gwˆyl Dewi. Cawsant hefyd lawer o hwyl wrth wrando ar ddisgrifiadau byw o ddathliadau'r Flwyddyn Newydd Chineaidd ac fe'u gwelir yn y lluniau yn mwynhau gyda'u hathrawes Miss Meryl Owens, yr awdures Helen Davies a chyfarwyddwr y Ganolfan, Lynwen Rees Jones.
Mae 2007 yn flwyddyn gyffrous i'r Ganolfan Astudiaethau Addysg – mae hi'n dathlu ei phen-blwydd yn 25 oed eleni. Mae CAA wedi tyfu a datblygu tipyn ers y dyddiau cynnar hynny yn 1982. Yn ystod y tri mis diwethaf yn unig, fe gyhoeddwyd dros ddeg ar hugain o deitlau newydd ar gyfer ystod oedran eang mewn nifer o wahanol bynciau, gan gynnwys deg teitl newydd yn y Gyfres Lleisiau, llyfrau Henri Helynt, Geiriadur Sbaeneg-Cymraeg a hefyd Mewnfudwyr yng Nghymru yn yr 20fed Ganrif a gyhoeddwyd yn y Gymraeg a'r Saesneg.
Cynhaliwyd digwyddiad gan y Ganolfan Astudiaethau Addysg ddydd Mawrth, y 10fed o Hydref, i lansio'r llyfrau darllen hwyliog, Henri Helynt, a gyhoeddwyd ddechrau mis Hydref.
Fe fu Alun Elidir (cyflwynydd ar S4C), yn darllen y llyfrau i ddisgyblion blynyddedd 3 a 4 Ysgol Gymunedol Tal-y-bont. Roedd y disgyblion wrth eu boddau yn clywed am helyntion Henri, ac fe'u gwelir yn y lluniau yn mwynhau gydag Alun ac aelodau o staff CAA.
Y mae'r pedwar llyfr wedi'u hysgrifennu ar gyfer plant 7-12 oed, ac fe'u haddaswyd o'r llyfrau Saesneg Horrid Henry gan Siân Lewis ac Elin Meek. Yng ngeiriau Delyth Ifan, golygydd y llyfrau, “Mae Henri Helynt yn fachgen drygionus a dyfeisgar, a ble bynnag mae 'na helynt, gallwch fentro nad yw Henri yn bell!”
CYFRESI NEWYDD CAA - Lansio Ddydd Gwyl Dewi 2006
Ddydd Gwyl Dewi eleni, trefnwyd digwyddiadau gan y Ganolfan Astudiaethau Addysg mewn dwy o ysgolion cynradd y canolbarth - i lansio un o'u cyfresi newydd sbon, sef 'Ffrindiau Bach a Mawr'.

Fe fu'r actores, Lowri Steffan yn darllen tri o lyfrau'r gyfres am y cawr a'i gartref newydd i blant Ysgol Talybont, ac fe fu awdur rhai o'r llyfrau, Siân Lewis, yn Ysgol Llanfarian yn darllen ei llyfrau hi o'r gyfres am helyntion y twrch daear.
Cyfres o lyfrau darllen lliwgar a difyr yw 'Ffrindiau Bach a Mawr' ar gyfer plant Cyfnod Allweddol 1 a 2, wedi'u hysgrifennu gan Gwawr Maelor, Meinir Ebbsworth a Siân Lewis. Y mae'r llyfrau ar gael mewn dau wahanol faint – A5 ar gyfer darllen personol, ac SRA3 ar gyfer darllen gyda'r dosbarth. Y mae llawlyfr athrawon dwyieithog a CD Sain hefyd ar gael i gyd-fynd â'r gyfres.
Roedd y plant wrth eu boddau yn clywed am helyntion y ffrindiau bach a mawr ar ddydd Gwyl Dewi, ac fe'u gwelir yn y lluniau yn mwynhau gyda'r diddanwyr ac aelodau o staff CAA.
Bu dau fis cyntaf 2006 yn gyfnod hynod gyffrous a thoreithiog i'r Ganolfan Astudiaethau Addysg. Yn ystod y mis diwethaf yn unig, fe gyhoeddwyd tair cyfres ddarllen newydd sbon ganddynt ar gyfer ystod oedran eang – Ffrindiau Bach a Mawr, Cyfres TonIc, a Chyfres Lleisiau.
Cyfres o lyfrau darllen i gyd-fynd â chyfres bobologaidd Taith 1, 2 a 3 yw Cyfres TonIc – ar gyfer disgyblion Cymraeg ail iaith, Cyfnod Allweddol 3. Y mae 12 llyfr yn y gyfres, a rheiny'n gymysgedd o lyfrau ffeithiol a llyfrau ffuglen difyr.
Cyfres o nofelau byrion, cyffrous a deniadol i arddegwyr (CA4) yw Cyfres Lleisiau – a gyhoeddwyd gan CAA ar y cyd â'r SCYA. Y mae Caryl Lewis, Bedwyr Rees, Meleri Wyn James ac Esyllt Maelor ymhlith awduron y llyfrau hyn.
Tanni Grey-Thompson a'i merch, Carys Olivia, mewn digwyddiad yng Nghanolfan Mileniwm Cymru i 'Ddathlu Dysgu Cymraeg' gyda CAA!
Cynhaliwyd digwyddiad arbennig yn Nghanolfan Mileniwm Cymru, a oedd wedi'i drefnu gan Y Ganolfan Astudiaethau Addysg (CAA) i dynnu sylw at yr amrywiaeth eang o adnoddau ar gyfer dysgu'r Gymraeg fel ail iaith sydd wedi'u cyhoeddi ganddynt yn ddiweddar.
Yn ystod y digwyddiad, darllenodd Tanni Grey Thompson - y baralympwraig fyd-enwog ac ennillydd Personoliaeth Chwaraeon y Flwyddyn BBC Cymru am y trydydd tro y llynedd – rai o lyfrau Cymraeg y Ganolfan i'w merch Carys Olivia a phlant ysgol lleol.
Meddai Tanni: “Rwy'n awyddus iawn i gefnogi a hybu'r defnydd o'r iaith Gymraeg, a phwysleisio pwysigrwydd adnoddau addysgol fel rhai'r Ganolfan Astudiaethau Addysg ar gyfer dysgu'r Gymraeg i blant ysgolion Cymru.”
Aeth Tanni ei hun ati i ddysgu Cymraeg y llynedd - yn bennaf er mwyn iddi fedru siarad yr iaith â'i merch, Carys, sydd bellach yn deirmlwydd oed. Ennillodd y gyfres Cariad@Iaith - rhaglen bry ar y wal yn dysgu Cymraeg i sêr Cymru ar S4C y llynedd – am ei chynnydd a'i llwyddiant yn dysgu'r Gymraeg dros gyfnod o wythnos yn Nant Gwrtheyrn.
Canolbwyntiwyd yn y digwyddiad ar rai o ddeunyddiau diweddaraf CAA ym maes dysgu'r Gymraeg fel ail iaith, yn eu plith: 'Camau Cwl' - CD-ROM arloesol sy'n cyflwyno'r Gymraeg i ddisgyblion uwchradd mewn modd bywiog a chyfoes; 'Tipyn o Gês' - chwe chês llawn hwyl ar gyfer disgyblion meithrin a chyfnod allweddol 1; 'Taith Iaith' - pecynau hynod boblogaidd o ddeunyddiau amlgyfrwng cyffrous ar gyfer dysgu'r Gymraeg fel ail iaith yng Nghyfnod Allweddol 3.
Yr oedd Is-Ganghellor a Chofrestrydd Prifysgol Cymru Aberystwyth (Noel Lloyd a Catrin Hughes) yn bresennol yn y digwyddiad, yn ogystal â chynrychiolwyr o ACCAC a Chyngor Llyfrau Cymru, a Nia Parry (cyflwynyddWelsh in a Week a Cariad@Iaith, S4C) a Gweinidog dros Addysg y Cynulliad, Jane Davidson.
Bu'n ddiwrnod hynod llwyddiannus o ran marchnata deunydd CAA, ac fe fu cryn sylw i'r digwyddiad yn y cyfryngau yn ystod yr wythnos – yn cynnwys ar Wedi 7, S4C ac ar Post Prynhawn, BBC Radio Cymru.