Asiantaeth gyhoeddi addysgol sy'n rhan o Brifysgol Aberystwyth yw'r Ganolfan Astudiaethau Addysg (CAA). CAA yw un o'r cyhoeddwyr addysgol mwyaf yng Nghymru ac fe gyhoeddir tua 50 o deitlau newydd gan yr asiantaeth yn flynyddol.
Mae CAA yn cynhyrchu deunyddiau o ansawdd uchel mewn ystod eang o bynciau ar gyfer pob Cyfnod Allweddol: addysg gynradd, addysg uwchradd ac addysg ôl-16 a Lefel Uwch. Mae gan yr asiantaeth brofiad helaeth o gynhyrchu deunyddiau o ansawdd da ar gyfer Adran Plant, Addysg, Dysgu Gydol Oes a Sgiliau (APADGOS), Cynulliad Cenedlaethol Cymru.
Mae CAA yn arbenigo mewn creu deunyddiau dysgu Cymraeg fel ail iaith ac mae hyrwyddo llythrennedd darllenwyr anfoddog hefyd yn nod bwysig iddi. Mae bod yn rhan o Ysgol Addysg a Dysgu Gydol Oes Prifysgol Aberystwyth yn galluogi CAA i ddilyn y datblygiadau diweddaraf ym myd addysg ac i fanteisio ar yr arbenigedd pwnc sydd ar gael o fewn yr Ysgol.
Dyfarnwyd Gwobr Llyfrau'r Asiantaeth Sgiliau Sylfaenol i CAA yn y gorffennol yn y categori, Llythrennedd Cynradd yn y Gymraeg. Enillwyd y wobr am y project, Cyfres Clic, a gynlluniwyd i hyrwyddo llythrennedd disgyblion Cyfnodau Allweddol 2 a 3. Dyfarnwyd Gwobr Tir na n-Og am y llyfr Saesneg gorau i un o gyfrolau CAA hefyd, sef 'The Battle of Mametz Wood, 1916'.
Gall CAA gynnig:
• Gwasanaeth cyhoeddi cyflawn, cystadleuol a phroffesiynol yn y Gymraeg a'r Saesneg;
• Datblygu deunyddiau mewn ystod eang o bynciau ac ar gyfer unrhyw oed;
• Amrywiaeth o gyfryngau o lyfrau a thaflenni i becynnau i CD-ROMau.